Mae gwleidyddion Plaid Cymru yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi ymateb i’r newyddion fod diffyg ariannol o £15 miliwn ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y cyhoeddiad yn ergyd drom i etholwyr, yn enwedig i’r rhai yn eu plith sy’n gyflogedig gan neu'n astudio yn y Brifysgol.
Yn ôl Siân Gwenllian AS (Arfon), sy’n cynrychioli Bangor:
“Mae diffyg ariannol ar y raddfa hon yn newyddion hynod bryderus, nid yn unig i staff y Brifysgol a’r 10,000 o fyfyrwyr, ond i’r gymuned ehangach hefyd.
“Mae’r Brifysgol yn rhan hanfodol o’r economi leol, yn cyflogi tua 2,000 o staff, ac mae unrhyw doriadau yn mynd i gael effaith drychinebus ar fy etholaeth.
“Ar lefel genedlaethol, mae Prifysgol Bangor yn cael ei chydnabod am ei darpariaeth Gymraeg, ac mae cynaliadwyedd y Brifysgol yn hanfodol i ffyniant ein hiaith.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi claddu eu pennau yn y tywod ers yn llawer rhy hir o ran cyllid i Addysg Uwch. Mae angen diwygio’r model ariannu presennol yn sylfaenol er mwyn achub ein prifysgolion.”
Dywedodd Liz Saville Roberts AS (Dwyfor Meirionnydd):
“Fel rhywun sydd â chefndir proffesiynol yn y sector addysg, dwi’n ymwybodol iawn bod ariannu priodol ar gyfer ein prifysgolion yn fuddsoddiad yn ein dyfodol; dyfodol ein heconomi, ein gweithlu, a chymdeithas yn ehangach.
“Mae’r gwerth rydan ni’n ei roi ar addysg yn adlewyrchu ein hymrwymiad i genedlaethau’r dyfodol, ac os bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn methu â dod i’r adwy i achub ein prifysgolion, maen nhw’n gadael cenedlaethau’r dyfodol i lawr.”
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS (Dwyfor Meirionnydd):
“Fel cyn-fyfyriwr ym Mangor, mae gen i fewnwelediad personol i werth yr addysg a gefais yno, y gwerth economaidd, yn ogystal â’r gwerth diwylliannol amhrisiadwy.
“Mae arwyddocâd hanesyddol Prifysgol Bangor, a adeiladwyd yn bennaf drwy gyfraniadau gan chwarelwyr a ffermwyr cyffredin, yn rwbio’r halen yn y briw.
“Bron i 150 o flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth y gymuned hon fuddsoddi mewn dyfodol lle byddai addysg yn ehangu ein gorwelion ein pobol. Mae’n amser rŵan i Lywodraeth Lafur Cymru ddangos yr un ymrwymiad i ddyfodol ein pobl.”
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru ac AS Ynys Môn:
“Dylai’r toriadau ym Mhrifysgol Bangor fod yn achos pryder i ni i gyd yn lleol – mae’n sefydliad sy’n chwarae rôl gymdeithasol ac economaidd allweddol, ac mae cael sector addysg uwch cynaliadwy a bywiog yn hanfodol i les Cymru gyfan.
“Gyda thoriadau’n cael eu cyhoeddi mewn un sefydliad ar ôl y llall, mae’r argyfwng sy’n wynebu’r sector yn dod yn fwyfwy clir, ac mae’n rhwystredig bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â gwrando ar ein galwadau am fodel ariannu newydd.
“Rydym wedi apelio ar Weinidogion i weithio â ni mewn ymarfer trawsbleidiol i adolygu’r trefniadau ariannu presennol – mae dyfodol Addysg Uwch yng Nghymru yn y fantol.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter