Yr wythnos ddiwethaf fe ddechreuodd y gwasanaeth coets newydd saith diwrnod yr wythnos, y TrawsCymru, yn mynd a phobl o Aberystwyth i Gaerdydd. O ganlyniad i’r gwasanaeth newydd yma mi fydd y siwrnai hon bellach yn gyflymach, yn fwy diogel ac yn fwy esmwyth i deithwyr ac mae’n dod o ganlyniad i gytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i wario £400,000 ar uwchraddio rhwydwaith TrawsCymru o fws i goets gyda chyfleusterau.
Tra’n croesawu’r datblygiad a’r gwelliant yn ansawdd y gwasanaeth rhwng Aberystwyth a Gaerdydd, mae AC Arfon Siân Gwenllian yn galw ar y Llywodraeth i ymrwymo i edrych ar ffyrdd o ehangu’r gwasanaeth i ardaloedd eraill o Gymru, gan y byddai croeso mawr i ddatblygiad o’r fath yn Arfon, a fyddai’n mynd a thrigolion ar goets o Fangor i rannau eraill o Gymru.
“Rhoddodd Blaid Cymru gryn bwysau ar y Llywodraeth Lafur er mwyn sicrhau’r uwch-raddio yma sydd wedi plesio cwsmeriaid y goets newydd ‘T1C’ yn arw iawn,” meddai Siân Gwenllian. “Mae gweld yr effaith gadarnhaol bydd y datblygiad yma yn ei gael ar ansawdd bywyd teithwyr sy’n mynd o Aberystwyth i Gaerdydd, rydw i’n awyddus iawn i bobol fy etholaeth i gael yr un manteision.
“Mae’n hynod bwysig i ardaloedd gwledig bod gwasanaeth trafnidiaeth sy’n addas i’r unfed ganrif ar hugain, sydd ddim ar gael yn rhai rhannau o Gymru wledig ar hyn o bryd. Rydw i’n galw felly ar i Lywodraeth Cymru edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno gwasanaeth tebyg i bobl Arfon er mwyn sicrhau eu bod yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyflymach, fwy diogel ac esmwyth i deithio ar draws Cymru.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter