Yn dilyn cyfarfod heddiw rhwng gwleidyddion Plaid Cymru a rheolwyr cwmni Northwood, Penygroes, gaeodd eu drysau yn ddisymwth 10 diwrnod nôl, pwysleisiodd y gwleidyddion y gwnânt droi pob carreg i gefnogi’r cwmni i oresgyn eu problemau ar y safle.
Wynebodd y 94 o weithwyr y newyddion bod Northwood yn bwriadu cau’r safle yn gwbl ddisymwth ar y 26 o Fai. Mae cyfnod ymgynghori i’r gweithwyr eisoes wedi dechrau.
Eglurodd y rheolwyr bod effaith Covid-19 wedi taro’r cwmni’n drwm a bod cau gwestai, bwytai, busnesau arlwyo, stadiymau a swyddfeydd, eu prif gwsmeriaid, yn glec enfawr.
Mae’r cwmni glendid proffesiynol a chlytiau sychu yn dweud bod rhaid iddynt roi mesurau mewn lle i sefydlogi’r cwmni, sy’n cyflogi 650 o weithwyr ar nifer o safleoedd eraill yn Lloegr hefyd.
Yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru dros Benygroes, Judith Humphreys: “Wedi dyddiau o geisio cyfarfod, o’r diwedd, dyma gyfle i bobl eistedd o gwmpas y bwrdd rhithiol a dechrau ar y dasg o glywed y manylion o lygad y ffynnon.
“Mae colli 94 o swyddi yn glec enfawr i staff a theuluoedd fy ardal, ac yn siom wedi blynyddoedd o weithio triw a chydwybodol i’r cwmni. I’r gymuned ehangach yn Nyffryn Nantlle, mi gaiff hyn effaith ar yr economi leol. Rydym yn gweithio’n ddi-flino i chwilio am ddatrysiad a chefnogi’r trigolion lleol ar hyn o bryd. Dwi’n ddiolchgar i’m cyd Gynghorydd, Craig ab Iago, Llanllyfni am uno yn y gefnogaeth i’r gweithlu yma yn Nyffryn Nantlle.”
Yn bresennol yn y cyfarfod rhithiol, roedd y Cynghorydd sydd â’r cyfrifoldeb dros yr economi yng Ngwynedd, Gareth Thomas.
“Mae’r drafodaeth wedi dechrau ac arbenigwyr busnes y Cyngor yn gweithio’n ddygn i edrych ar bob math o fodelau ac opsiynau posib i gefnogi’r cwmni. Ein blaenoriaeth fydd diogelu’r sgiliau a’r safonau sydd gan y gweithwyr yma yng Ngwynedd, a hynny mewn cyfnod lle mae’r economi eisoes yn fregus o ganlynaid i Covid-19.”
Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod o'r Senedd dros Arfon a Hywel Williams Aelod Seneddol Arfon yn San Steffan oedd yn rhan o dîm Y Blaid oedd yn y drafodaeth rithiol heddiw: ”Gwnaethom yn gwbl glir mai’r ffactor pwysicaf yn y trafodaethau hyn yw diogelu swyddi'r staff a’u bywoliaeth.
“Rhaid cadw pob opsiwn i ddiogelu'r safle ar y bwrdd, a rhaid i Lywodraeth Cymru ddyblu ymdrechion i flaenoriaethu sgyrsiau i ddod o hyd i atebion.
“Rydym yn gweithio’n adeiladol ar draws pob lefel o lywodraeth leol a chenedlaethol i gadw’r swyddi hyn ar y safle ym Mhenygroes.
“Ein blaenoriaeth fydd cadw'r sgiliau’r gweithlu medrus yn Nyffryn Nantlle a sicrhau dyfodol i’r ffatri gweithgynhyrchu yma yng Ngwynedd.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter