Tŷ Gobaith: Galw am wirfoddolwyr!

Mae’r siop ym Mangor yn cefnogi gwaith yr elusen ar draws gogledd orllewin Cymru

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi ymuno â’r alwad am fwy o wirfoddolwyr yn siop Tŷ Gobaith ym Mangor. Mae'r siop ar Stryd Fawr Bangor yn codi arian at yr elusen sy'n cynnig cymorth i blant a theuluoedd ar draws gogledd orllewin Cymru.

 

Aeth Siân Gwenllian draw i’r siop yn ddiweddar i siarad â staff a gwirfoddolwyr am yr heriau sy’n wynebu’r sector gwirfoddol, a dysgu mwy am eu hymgyrch am fwy o wirfoddolwyr.

 

Yn ôl Siân:

 

“Mae’r gwaith mae Tŷ Gobaith yn ei wneud i gefnogi plant a’u teuluoedd yn amhrisiadwy, a hynny er gwaethaf diffyg adnoddau. Ar hyn o bryd, dim ond 12% o’u costau gofal y maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu eu bod nhw ddim ond yn gallu cyrraedd 10% o’r 3,655 o blant yng Nghymru sydd â chyflwr sy’n gwneud eu bywydau’n fyrach neu sy’n peryglu bywyd.

 

“Mae’r pwysau sydd ar yr elusen yn golygu bod y gwaith o godi arian hyd yn oed yn fwy pwysig, ac mae eu siopau, gan gynnwys yr un ym Mangor yn rhan allweddol o’r ymdrech honno.

 

“Mae llawer o elusennau a phrosiectau cymunedol yn nodi eu bod wedi colli nifer sylweddol o wirfoddolwyr ers y pandemig, a dydi Tŷ Gobaith ddim yn eithriad o ran hynny.

 

“Ac nid dim ond er mwyn codi arian mae’r siop yn bwysig. Mae hefyd yn bwynt cyswllt i’r elusen, yn lle i deuluoedd gael gwybodaeth a chyngor am eu gwaith.

 

“Dwi’n annog pobl leol sy’n gallu rhoi peth o’u hamser i gefnogi’r elusen hon i gyrraedd y plant y maen nhw’n cael trafferth eu cyrraedd ar hyn o bryd.”

 

Dylai’r sawl sydd â diddordeb gwirfoddoli alw i mewn i’r siop am sgwrs yn 306 Stryd Fawr, neu eu ffonio ar 01248 355 644.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2024-07-26 16:13:23 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd