Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru dros Arfon a Dwyfor Meirionnydd, Hywel Williams a Liz Saville Roberts yn cynnig i etholwyr sy'n dymuno siarad gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ynghylch hawliadau Credyd Cynhwysol (Universal Credit), ddefnyddio ffônau eu swyddfeydd yng Nghaernarfon a Dolgellau am ddim, yn dilyn newyddion fod hawlwyr yn eu wynebu cost o 55c y funud i ddefnyddio'r llinell gymorth.
Mae Hywel Williams AS, Llefarydd Plaid Cymru ar Waith a Phensiynau, wedi annog y Llywodraeth i gael gwared â’r taliadau, tra bod Liz Saville Roberts yn galw'r taliadau 'warthus'.
Dywedodd Hywel Williams AS a Liz Saville Roberts AS,
'Mae'n syfrdanol fod y rhai sy'n ceisio hawlio Credyd Cynhwysol yn gorfod talu am y fraint o siarad â rhywun am eu cais.'
‘Er gwaethaf y rhwystrau sydd eisoes yn wynebu nifer o hawlwyr, megis dyledion, digartrefedd a dadfeddiannu, mae codi tâl ar bobl sydd heb arian i drafod eu cais yn gwbl hurt.'
'Rwy'n gobeithio y byddant yn cael gwared a’r tâl anhygoel hwn cyn gynted ag y bo modd'.
'Yn y cyfamser, mae croeso i etholwyr sy'n dymuno ffonio'r DWP i drafod eu cais Credyd Cynhwysol ddod i'n swyddfeydd naill ai yng Nghaernarfon (Arfon) neu Ddolgellau (Dwyfor Meirionnydd) a defnyddio'r ffôn yn rhad ac am ddim.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter