Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian yn gwahodd ceisiadau o ddiddordeb gan ferched ar draws eu hetholaeth sydd wedi eu heffeithio gan newidiadau i’w pensiwn gwladol, i sefydlu grŵp ymgyrchu WASPI lleol i roi fforwm i’r merched wrthwynebu’r newidiadau.
Mae Hywel Williams AS, sy’n lefarydd Plaid Cymru ar faterion yn ymwneud â Gwaith a Phensiynau eisioes wedi mynd i’r afael â’r mater yn y Senedd, gan godi’r mater yn Nhŷ’r Cyffredin a chefnogi dirprwyaeth o ferched o Wynedd yn ymgyrchu tu allan i’r Senedd.
Mae Hywel Williams a Siân Gwenllian yn awyddus clywed gan ferched sydd wedi eu geni yn y 1950au ac sydd wedi dioddef yn sgil y newidiadau yma cyn ail ddarlleniad y Mesur Pensiynau a gyflwynir yn y Senedd ar Ebrill 27, 2018.
I ddatgan diddordeb bod yn rhan o’r grŵp, cysylltwch â Hywel Williams ar [email protected]
Dywedodd Hywel Williams AS,
‘Mae merched ar draws y DU wedi cael eu taro'n galed gan y newidiadau yma gyda chynlluniau llawer wedi eu difetha’n llwyr. Mae llawer o ferched ar draws Arfon sydd yn yr un sefyllfa wedi cysylltu â mi.’
‘Yn aml, maent yn wynebu diweithdra, heb fawr o obaith cael swydd - bywyd caled ar fudd-daliadau ar adeg pan ddylent fod yn mwynhau ffrwyth eu blynyddoedd hir o waith.'
'Gyda hyn mewn golwg, rwy'n awyddus i glywed gan ferched yn fy etholaeth, sydd wedi cael eu heffeithio gan newidiadau i'w pensiwn gwladol, gyda'r nod o sefydlu grŵp lleol i rannu syniadau.’
‘Mae ymgyrch cenedlaethol WASPI yn ceisio perswadio’r llywodraeth i wneud trefniadau pontio teg ar gyfer merched a anwyd yn y 1950au sydd bellach yn gorfod aros hyd at chwe mlynedd yn ychwanegol i dderbyn eu pensiwn gwladol.’
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
‘Mae llawer o ferched wedi treulio blynyddoedd yn cydbwyso nifer o swyddi yn ogystal ag ymrwymiadau teuluol a rolau gofalu yn y teulu. Roedd llawer ohonynt yn edrych ymlaen at fywyd haws pan gyrhaeddant eu hoedran pensiynadwy, ac mae hynny'n awr wedi cael ei dynnu oddi arnynt.’
'Mae llawer o ferched wedi rhoi cynlluniau ariannol a phersonol pendant iawn ar waith o fewn amserlen benodol, ac mae'n annheg iawn symud y gôl, gan daflu cymaint o ferched i fewn i drallod.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter