Mae Siân Gwenllian AC yn gwisgo pinc i gefnogi ymchwil hanfodol Breast Cancer Now
Mae Siân Gwenllian, AC dros Arfon wedi gwisgo pinc i roi ei chefnogaeth i gwisgwch binc, achos codi arian blaenllaw Breast Cancer Now, sy’n golygu y bydd miloedd o bobl drwy’r DU yn ychwanegu pinc llachar at eu dillad ar Ddydd Gwener 20 Hydref ac yn codi arian hanfodol ar gyfer ymchwil canser y fron.
Mae Siân Gwenllian, yn annog ei hetholwyr yn Arfon i ymuno â hi, a chofrestru i gymryd rhan yn ymgyrch godi arian pinc mwyaf y DU. Mae’r digwyddiad hwn ym mis Hydref, sef Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, yn dathlu ei ben-blwydd yn 16 oed ac wedi codi mwy na £30 miliwn hyd yma at ymchwil Breast Cancer Now sy’n achub bywydau.
Yn gynharach yr wythnos hon yng Nghaerdydd, ynghyd â chyd-aelodau o’r cynulliad, dangosodd Siân Gwenllian, ei chefnogaeth i’r miloedd o ferched a dynion y mae canser y fron yn effeithio arnynt bob blwyddyn, gan annog pobl ledled Cymru i gymryd rhan ar ddiwrnod gwisgwch binc.
Gall unrhyw un gymryd rhan yn gwisgwch binc, sy’n dod ag ysgolion, gweithleoedd a chymunedau at ei gilydd. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw gwisgo rhywbeth pinc, neu gynnal digwyddiad pinc yn eich cartref, yn eich gwaith neu yn eich ysgol, a gwneud rhodd i Breast Cancer Now. Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud, byddwch yn helpu’r elusen i gyflawni ei nod, sef, os byddwn i gyd yn gweithredu nawr, erbyn 2050 bydd pawb sy’n datblygu canser y fron yn byw.
Meddai Siân Gwenllian, AC:
“Canser y fron yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU. Bob blwyddyn, mae tua 2,600 o ferched yng Nghymru yn cael y diagnosis o ganser y fron ac yn anffodus mae 600 o ferched yn colli eu bywydau o ganlyniad i’r afiechyd. Dyna pam rydw i’n argymell pawb yn [rhowch enw lle] i gymryd rhan yn gwisgwch binc ar Ddydd Gwener 20 Hydref. Mae’n ffordd mor rhwydd a hwyliog o gefnogi gwaith ymchwil hanfodol Breast Cancer Now, a helpu i atal canser y fron rhag hawlio bywydau ein hanwyliaid.”
Hefyd, yn ymuno â’r digwyddiad roedd y cwbl o rocwyr Cymreig, Mike a Jules Peters. Mae Jules, a gafodd ddiagnosis o ganser y fron ym mis Gorffennaf 2016, yn cefnogi gwisgwch binc yn y gobaith y bydd miloedd o bobl ar draws y wlad yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Meddai Jules Peters (The Alarm):
“Mae gwisgwch binc yn ffordd llawn hwyl o godi arian i achos pwysig sydd mor agos at fy nghalon. Mi wnes i gwblhau fy nhriniaeth ar gyfer canser y fron yn ddiweddar, a nawr rydw i eisiau codi arian ar gyfer gwaith ymchwil fel y gallwn ni roi diwedd unwaith ac am byth ar yr afiechyd dychrynllyd yma.
“Hyd yma mae gwisgwch binc wedi codi swm rhyfeddol o £30 miliwn at waith ymchwil hanfodol Breast Cancer Now. Fel rhywun sydd wedi bod yn bersonol drwy’r profiad o ganser y fron, rwy’n credu’n angerddol ynglŷn â gofalu fod merched fel fi yn derbyn diagnosis yn gyflym, eu bod yn cael y driniaeth orau posibl, ac yn y pen draw yn dod drwyddi. Dyna pam yr ydw i’n gofyn i bobl ym mhob rhan o Gymru ymuno â mi drwy wisgo pinc ar ddiwrnod gwisgwch binc a rhoi rhodd i ymchwil Breast Cancer Now. Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn cymryd rhan ledled Cymru!”
Meddai’r Farwnes Delyth Morgan, Prif Weithredwr Breast Cancer Now:
“Mae’n ardderchog fod cymaint o Aelodau’r Cynulliad wedi gwisgo dillad pinc yn ein digwyddiad gwisgwch binc ac rydym yn hynod o ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a’r holl frwdfrydedd a gafwyd. Drwy wisgo pinc rydym yn gobeithio y bydd Siân Gwenllian, yn annog ei hetholwyr yn Arfon i gymryd rhan yn eu cymuned leol a helpu Breast Cancer Now i ariannu gwaith ymchwil sy’n achub bywydau yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron eleni.
. .
“Mae gwisgwch binc yn gyfle ardderchog i gymunedau ym mhob rhan o’r DU ddod ynghyd a chael hwyl, ac ar yr un pryd ddangos eu cefnogaeth i bawb y mae canser y fron yn effeithio arno. Drwy’r weithred syml o wisgo rhywbeth pinc a gwneud cyfraniad, rydych yn codi arian i waith ymchwil sy’n achub bywydau ac yn helpu Breast Cancer Now i gyrraedd ein nod, sef, erbyn 2050, y bydd pawb sy’n dioddef afiechyd canser y fron yn byw.”
Er mwyn cymryd rhan yn gwisgwch binc ym mis Hydref eleni, ewch i wearitpink.org/wales i gael rhagor o fanylion, syniadau ar sut i godi arian a sut i gofrestru ar gyfer eich pecyn codi arian rhad ac am ddim.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter