Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi cyhuddo llywodraeth y DU o ddiystyru cyfraniad amhrisiadwy gofalwyr yn ystod y pandemig Coronavirus trwy wrthod galwadau am gynnydd yn y Lwfans Gofalwyr.
Ysgrifennodd yr AS Plaid Cymru at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn annog y llywodraeth i gynyddu Lwfans y Gofalwyr i adlewyrchu'r gefnogaeth ychwanegol y mae gofalwyr yn ei darparu a'r caledi ariannol y mae llawer yn ei wynebu o ganlyniad i golli incwm yn ystod pandemig Covid-19.
Cyfradd gyfredol y Lwfans Gofalwyr yw £67.25 yr wythnos, er bod llawer o ofalwyr yn darparu dros dri deg pump awr o ofal yr wythnos, gyda llawer yn aberthu eu gallu eu hunain i weithio a dilyn gyrfaoedd.
Dywedodd Hywel Williams AS,
'Mae angen y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu ar ofalwyr. Mae llawer o ofalwyr yn darparu gofal bob awr o’r dydd, ac eto dim ond £67.25 yr wythnos yw'r Lwfans Gofalwyr cyfredol i rywun sy'n darparu o leiaf dri deg pump awr yr wythnos o ofal un i un.'
'Rwy'n gwybod o brofiad fy etholwyr fy hun ac ar ôl siarad â sefydliadau gofalwyr lleol yng Ngwynedd fod yna deimladau cryf am y diffyg cydnabyddiaeth i ofalwyr ac annigonolrwydd y Lwfans Gofalwyr.'
'Ac eto nid yw'n ymddangos bod gan y lllywodraeth Dorïaidd unrhyw gynlluniau i gynyddu'r Lwfans, nid hyd yn oed fel mesur dros dro i liniaru peth o'r caledi ariannol a wynebir gan ofalwyr yn ystod y pandemig digynsail hwn.'
'Roedd hwn yn gyfle i lywodraeth y DU wneud y peth iawn i'r miliynau o ofalwyr sy’n rhoi eu hamser yn anhunanol a gohirio gyrfaoedd i ofalu am anwyliaid.'
'Lwfans Gofalwyr yw'r budd-dal isaf o'i fath ac mae llawer o ofalwyr di-dâl sy'n dibynnu ar y gefnogaeth hon yn wynebu brwydr ddi-ddiwedd i gael dau ben llinyn ynghyd.'
'Mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU ei gwneud yn decach i ofalwyr a chynyddu'r lwfans yn barhaol i gydnabod eu cyfraniad enfawr i'r gymdeithas a'r economi ehangach.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter