Y frwydr i warchod Canolfan Brawf Caernarfon yn cyrraedd San Steffan.
Mae AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams wedi cyfarfod ag Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth, y Farwnes Vere, i ymladd cornel gyrrwyr loriau, gyrwyr bysiau a hyfforddwyr gyrru lleol sy’n wynebu anhawsterau dwys yn sgil cynllun i gau canolfan brawf DVSA yng Nghaernarfon.
Os yw’r ganolfan brawf yn symud o Gaernarfon, bydd disgwyl i'r rhai sy'n cymryd prawf (HGV) sefyll eu prawf yn Wrecsam.
Mae deiseb ar-lein yn gwrthwynebu cau canolfan Caernarfon wedi’i llofnodi gan dros 700 o bobl, ac mae’r cynllun wedi cael beirniadaeth ffyrnig gan y diwydiant cludo lleol.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Hywel Williams AS,
‘Rwy’n croesawu’r cyfle i gwrdd â’r Gweinidog Gwladol yn y DfT i bwyso arni am bwysigrwydd cadw Canolfan Brawf y DVSA yng Nghaernarfon.’
‘O’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y bygythiad yma i’r diwydiant cludo yn ehangach, mae pryderon dilys ynghylch yr effaith posib o gau’r ganolfan ar fusnesau lleol.’
‘Mae’n annerbyniol fod y DVSA yn ystyried cau cyfleusterau lleol pwysig heb unrhyw ymgynghoriad o gwbl, pan fo bywoliaethau hyfforddwyr gyrru’r ardal yn y fantol.’
‘Cytunodd y Gweinidog Gwladol i godi’r mater yn uniongyrchol gyda’r DVSA, ac rwy’n darparu brîff trylwyr iddi yn egluro manylion pryderon busnesau lleol.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter