Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn,
“Dwi’n croesawu datganiad y Gweinidog Cyllid heddiw na fydd y gwyliau rhag talu treth trafodion tir hyd at £250,000 yn berthnasol i bryniant ail gartref neu brynu i osod. Bydd hyn yn sicrhau na fydd prynwyr sydd â’r modd i brynu ail eiddo yn cael budd o’r gwyliau treth sydd wedi ei gyhoeddi er mwyn hwyluso’r farchnad dai i brynwyr tro cyntaf a’r rhai sydd angen cartref. Unwaith eto, gadewch i ni ddatgan yn glir fod Cymru yn dilyn ei llwybr unigryw ei hun, er lles bobl Cymru. Mae’n dystiolaeth y dylen ni gael mwy o bwerau i wneud penderfyniadau ar ystod eang o feysydd, er mwyn creu Cymru ffyniannus. Ein llywodraeth ni yma yng Nghymru ddylai wneud penderfyniadau o’r fath nid gwleidyddion di-hid a di-ddeall Westminster.
Dywedodd Siân Gwenllian AS dros Arfon,
"Rwy'n cytuno â phenderfyniad Llywodraeth Cymru ynglych newidiadau Treth Trafodion Tir a'r trothwy o £250,000. Mae croeso mawr i'r newyddion ei fod yn berthnasol i eiddo cyntaf prynwr yn unig. Heb y cafael hwn, byddai wedi helpu prynwyr ail gartrefi a phrynu i osod yn anghymesur. Mewn gormod o gymunedau, ni all pobl leol brynu eu cartref cyntaf oherwydd bod presenoldeb gormod o ail gartrefi wedi gwthio prisiau tai allan o gyrraedd teuluoedd lleol.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter