Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Arfon wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd arian yn cael ei glustnodi ar gyfer consortiwm dan arweiniad Prifysgol Bangor a fydd yn monitro lefelau coronafirws mewn gweithfeydd trin gwastraff dŵr.
Mae monitro cyson o’r gweithfeydd yn gallu cynnig syniad o gyfradd yr haint yn y gymuned, yn ogystal â rhoi rhybudd cynnar bod coronafirws yn bresennol.
Byddant yn datblygu rhaglen fonitro a fydd yn mesur presenoldeb y firws SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff. Mae presenoldeb SARS-CoV-2 mewn gwastraff dynol yn gyffredin ym mron pob achos o Coronafirws.
Daw’r cyhoeddiad wedi i Siân Gwenllian alw ar y Llywodraeth i roi cefnogaeth i’r rhaglen ymchwil mewn cyfarfod o’r Senedd rai wythnosau’n ôl.
Croesawodd Siân Gwenllian AS y cyhoeddiad, gan ddweud ‘rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar fy ngalwad i gynnig cefnogaeth i’r prosiect blaengar hwn. Rwy’n falch hefyd o weld Prifysgol Bangor ar flaen y gad yn y maes ymchwil gwyddonol unwaith eto. Rydym yn falch iawn o gael sefydliad lleol yn ganolog yn y frwydr yn erbyn y feirws.’
Mewn datganiad gan Brifysgol Bangor dywedodd Iwan Davies, Is-Ganghellor y brifysgol ei fod yn ‘falch iawn y bydd gwaith monitro amgylcheddol arloesol, sy'n cyfuno gwahanol feysydd arbenigedd yn ein Coleg Gwyddor yr Amgylchedd a Pheirianneg, yn cyfrannu at waith hanfodol y genedl i amddiffyn cymunedau yn erbyn Covid-19 ac achosion pellach o coronafirws a firysau heintus eraill.’
Cadarnhaodd Vaughan Gething, y gweinidog iechyd y bydd y rhaglen beilot yn derbyn £500,000 ac yn para am 6 mis i ddechrau, gyda’r gobaith o ehangu’r samplo i 20 weithfeydd sy’n cynrychioli tua 75% o boblogaeth Cymru.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter