Mae AC Arfon, Sian Gwenllian, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal ymgynghoriad newydd, lawn a thryloyw ar ddyfodol gwasanaethau fasciwlar yng ngogledd Cymru.
Mae'r AC wedi ysgrifennu at bob aelod o'r Bwrdd yn gofyn iddynt gefnogi ei chais.
"Mae wedi dod yn amlwg bod rheolwyr y Bwrdd yn dymuno canoli gwasanaethau i Ysbyty Glan Clwyd, er mai dim ond un ymgynghorydd 'locum' sydd yn gweithio yno ac er gwaetha'r ffaith bod y gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd yn cael ei adnabod yn rhyngwladol fel un o'r goreuon.
"Bu ymgynghoriad yn ôl yn 2013 ond mae llawer iawn o ddŵr wedi mynd dan y bont ers hynny, gan gynnwys y ffaith bod Betsi Cadwaladr wedi ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015.
"Ni fydd y Bwrdd yn adennill ymddiriedaeth y cyhoedd hyd nes y bydd yn fodlon cael trafodaethau agored a llawn am y newidiadau i'r gwasanaeth ac esbonio'n llawn beth yw'r rhesymau dros y newidiadau hyn.
"Rwyf eto i gael fy argyhoeddi o'r angen i symyd i ffwrdd o'r fodel bresennol o wasanaethau fasgiwlar ac rwyf i, fel nifer o bobl eraill, yn ceisio deall beth yw'r rhesymeg tu cefn i'r ddadl.
"Mae gofyn cael ymgynghoriad newydd er mwyn ail-gysylltu'r Bwrdd Iechyd gyda'r cyhoedd ac yn enw tegwch a thryloywder."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter