Mae’r polisi yn “rhagweithiol wrth gefnogi teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd”
Siân Gwenllian yw’r Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon, a hi hefyd yw prif aelod dynodedig Plaid Cymru yn y trafodaethau rhwng ei phlaid a Llywodraeth Cymru yn eu Cytundeb Cydweithio.
Yn ddiweddar aeth draw i Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon yn ei hetholaeth er mwyn gweld drosti ei hun y gwaith sydd eisoes ar y gweill i baratoi ar gyfer cyflwyno’r polisi.
Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, bydd pob un disgybl ysgol cynradd yn gymwys i dderbyn cinio am ddim. Mae’r polisi yn cael ei gyflwyno’n raddol, gan ddechrau gyda’r plant ieuengaf ym mis Medi.
Bydd 45,000 o ddisgyblion ychwanegol yn gymwys o’r cychwyn cyntaf, gyda thua 66,000 o ddisgyblion yn elwa o’r polisi hwn yn ystod y flwyddyn gyntaf. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd gwerth £35m o arian cyfalaf ychwanegol i gefnogi’r paratoadau o roi’r polisi ar waith.
Yn ddiweddar aeth yr Aelod o’r Senedd dros Arfon draw i ysgol yn ei hetholaeth i weld enghreifftiau o sut mae ysgolion yn recriwtio mwy o staff ac yn addasu eu hadeiladau a’u hoffer cegin yn unol â’r polisi.
“Roedd yn brofiad anhygoel ymweld ag ysgol yn fy etholaeth i weld un o flaenoriaethau pwysicaf Plaid Cymru yn cael ei roi ar waith.
“Mae Ysgol yr Hendre wedi cael estyniad i’r gegin, yn ogystal â chael offer newydd i baratoi ar gyfer cyflwyno’r polisi’n raddol. Maen nhw hefyd eisoes wedi recriwtio mwy o staff a bydd angen mwy wrth i brydau am ddim gael eu cynnig i fwy a mwy o ddisgyblion.
Siân Gwenllian AS gyda Mrs Wendy Hunt, cogyddes yn Ysgol yr Hendre
“Mae cynnig prydau ysgol am ddim yn un o’r pethau pwysicaf y medrwn ni ei wneud i fynd i’r afael â thlodi a newyn plant yng Nghymru – drwy wneud yn siŵr fod plant yn cael pryd maethlon, yn rhad ac am ddim fel rhan o’r diwrnod ysgol.”
Cafodd yr AS daith dywys o gyfleusterau arlwyo’r ysgol gan Mr. Kyle Jones, pennaeth Ysgol yr Hendre. Yn ôl Mr. Jones:
“Mae Prydau Ysgol am Ddim yn bolisi holistig: mae’n mynd i’r afael ag effeithiau tlodi, ond mae hefyd yn arwain at ddiet iachach i blant, yn cyflogi mwy o weithwyr lleol, ac yn rhoi hwb i’r gadwyn fwyd leol.”
Siân Gwenllian gyda Mr. Kyle Jones, Pennaeth Ysgol yr Hendre.
Ychwangeodd Siân Gwenllian:
“Mae Plaid Cymru hefyd eisiau gweld y polisi yn cael effaith ar addysg y plant. Rydan ni eisiau gweld disgyblion yn dysgu o le mae eu bwyd nhw’n dod, a dysgu pwysigrwydd bwyta cynnyrch lleol sydd ddim yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
“Yn y cyfnod economaidd dyrrys rydan ni’n byw drwyddo, mae Cymru yn gwneud rhywbeth rhagweithiol i gefnogi teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd.
“Dyma pam es i i fyd gwleidyddiaeth, i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Fel cyn Aelod Cabinet dros Addysg, cyn-Lywodraethwr Ysgol ac fel rhiant fy hun, mae darparu prydau ysgol am ddim wedi bod yn uchelgais personol i mi.
“Roedd ymweld ag ysgol yn fy etholaeth i weld yr uchelgais hwnnw’n cael ei wireddu yn foment emosiynol.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter