Dyma rhai o resymau dros sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor:
- Byddai Ysgol Feddygol ym Mangor yn arwain at welliant yn ansawdd y gofal meddygol i bobl ein gwlad fel rhan o ddull ledled Cymru o hyfforddi meddygon newydd.
- Nid oes Ysgol Feddygol yn y Gogledd ar hyn o bryd. Mae’r unig ddwy yng Nghymru wedi’u lleoli’n agos at ei gilydd yn y De, gan adael rhan enfawr o'r wlad heb hyfforddiant meddygol llawn.
- Mae hyn yn bwysig oherwydd bod tystiolaeth academaidd o nifer fawr o ffynonellau yn profi bod canran sylweddol o feddygon yn aros i weithio yn yr ardal lle cawsant eu hyfforddi.
- Gan nad oes dim meddygon yn cael eu hyfforddi yma, does dim syndod bod y prinder meddygon teulu a meddygon ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn creu problemau enfawr a phwysau ar y GIG yn yr ardal.
- Ynghyd â phrinder dybryd am welyau (a hynny yn Ysbyty Gwynedd ac mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Orllewin Cymru), mae’r sefyllfa gofal iechyd yn ddifrifol yn y Gogledd.
- Mae’r gwariant ar feddygon locwm yn uwch yma nag mewn byrddau iechyd eraill.
- Rhaid inni ddechrau hyfforddi meddygon mewn Ysgol Feddygol yn y Gogledd fel rhan o'r ateb hirdymor.
- Bangor yw’r lle delfrydol - mae'r Brifysgol yn rhagori ym maes addysg sy’n gysylltiedig ag iechyd ac mae eisoes yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Ysbyty Gwynedd.
- Mae Ysbyty Gwynedd yn cael ei gydnabod yn eang fel canolfan ragoriaeth (er enghraifft ym maes Meddygaeth y Mynydd) ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau arbenigol yng Nghymru a Lloegr.
- Byddai’r Ysgol Feddygol newydd yn denu myfyrwyr o'r ardal leol, o bob rhan o Gymru ac yn wir o bob rhan o’r byd, gan ddod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer meddygaeth wledig - i ganfod atebion i’r heriau sy'n gysylltiedig â darparu gofal mewn ardal denau ei phoblogaeth.
- Gallai'r Ysgol Feddygol newydd fod yn ganolbwynt i addysg feddygol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan hyfforddi'r meddygon dwyieithog sydd eu hangen i gyflawni strategaeth y Llywodraeth, ‘Mwy na Geiriau’, sy’n cydnabod bod y canlyniadau i'r claf yn well os yw’r cleifion yn gallu cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter