Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn galw am bwerau i droi pobl allan o ail gartrefi.
Mae dau gomisiynydd heddlu a throseddu wedi beirniadu'r Prif Weinidog Mark Drakeford am beidio â chynyddu dirwyon i bobl sy'n cael eu dal yn torri rheolau'r cyfyngiadau symud.
Hefyd, galwodd Comisiynydd Gogledd Cymru Arfon Jones a Chomisiynydd Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn ar y Prif Weinidog i roi pwerau i'r heddlu i droi pobl allan o gartrefi sydd ddim yn brif breswylfa iddynt.
Ar hyn o bryd, mae dirwyon yng Nghymru yn dechrau o £60 ac yn codi i £120 i droseddwyr mynych. Gall y dirwyon hyn leihau i £30 os ydynt yn cael eu talu o fewn 14 diwrnod. Fodd bynnag, mae dirwyon yn Lloegr nawr yn dechrau o £100, sy'n lleihau i £50 os cânt eu talu'n gyflym, ac yn gallu codi i £3,200 i droseddwyr mynych.
Ar ôl sylwadau'r Prif Gwnstabliaid gerbron Llywodraeth Cymru yn gofyn am yr un dirwyon â Lloegr, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn y byddai comisiynwyr pedwar heddlu Cymru a'r pedwar Prif Gwnstabl yn ysgrifennu unwaith eto at Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydynt yn bwriadu newid y system dirwyon yng Nghymru.
Meddai Comisiynydd Heddlu a Throseddu Plaid Cymru ar gyfer gogledd Cymru Arfon Jones,
"Rydym wedi bod yn galw ers amser maith am ddirwyon i atal pobl rhag teithio i mewn i Gymru ac o fewn Cymru, ond mae Mark Drakeford wedi gwrthod newid y dirwyon.
"Os yw pobl yn symud o ardaloedd â phoblogaeth fwy dwys, â chyfraddau haint uwch, i gymunedau mwy gwledig, mae'n creu tensiwn diangen.
"Mae'n teimlo fel bod cymunedau Gogledd Cymru yn cael eu hanghofio a'u gadael i lawr, a hynny ar adeg mor bwysig. Mae'r boblogaeth leol yn pryderu y gallai cyfraddau haint gynyddu, ac mae hynny'n ddealladwy; mae'r bwrdd iechyd eisoes yn rhagweld hyn oherwydd bod y brig wedi digwydd yn ddiweddarach nag yn ne Cymru lle mae'r boblogaeth yn fwy dwys. Ein blaenoriaeth yw amddiffyn y cymunedau hyn.
Meddai Comisiynydd Heddlu a Throseddu Plaid Cymru ar gyfer Dyfed Powys Dafydd Llywelyn,
"Mae ein profiadau ar lawr gwlad dros yr wythnos ddiwethaf ar ôl newidiadau a llacio'r cyfyngiadau teithio yn Lloegr yn dangos yn glir bod rhaid i ni fod yn fwy gwyliadwrus a rhoi dirwyon mwy llym. Mae angen mwy o bwerau arnom i atal pobl neu i orfodi pobl i beidio â defnyddio ail gartrefi.
"Mae'r cyfyngiadau symud yn fwy llym yma, ond mae'r dirwyon yn is. Nid yw'r gosb yng Nghymru'n addas i'r trosedd ac nid yw'n gweithio – roedd gennym un troseddwr mynych yn Llanelli a droseddodd bum gwaith, ac eto y ddirwy fwyaf fydd £120.
"Mae'n teimlo fel bod y prif weinidog wedi rhoi llwy i ni i dorri coeden."
Mae Delyth Jewell, Aelod o'r Senedd ar gyfer rhanbarth De Ddwyrain Cymru, eisoes wedi dweud,
"Mae'r neges gan Gymru yn glir: Arhoswch gartref. Mae'n rhaid blaenoriaethu diogelwch pobl Cymru ac mae angen i unrhyw un sy'n meddwl am yrru i Gymru i ymweld â chyrchfan dwristiaeth boblogaidd ddeall y byddent yn eu peryglu eu hunain a phawb o'u cwmpas.
"I'r perwyl hwn ac i amddiffyn pobl rhag y feirws, mae'n rhaid i ni gefnogi ein heddluoedd drwy roi mwy o bwerau iddynt i wneud i bobl ailfeddwl ynglŷn â thorri rheolau'r cyfyngiadau symud."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter