Bu Aelod Cynulliad Arfon yn ymweld â’r ysgol newydd ym Maesgeirchen, Bangor ar y diwrnod cyntaf.
Meddai Siân Gwenllian:
“Pleser o'r mwyaf oedd ymweld â'r ysgol newydd sbon ym Maesgeirchen wrth i'r disgyblion a'r staff fynd yno am y tro cyntaf yr wythnos hon.
Mae'r hen adeilad wedi ei ddymchwel a chyfleusterau gwych ar gael yn yr Ysgol Glancegin newydd yn dilyn buddsoddiad o bron i £5 Miliwn.
Mae 260 o blant yno a phawb wedi setlo yn rhyfeddol o dda yno ac wrth eu gwersi yn syth.
Dyma un o'r prosiectau y rhoddais ar waith fel Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd cyn cael fy ethol yn Aelod Cynulliad ac felly roedd yn brofiad arbennig iawn i alw heibio'r ysgol i weld y cyfleusterau modern gwych.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter