Mae diffyg ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru yn enghraifft o anghydraddoldeb cymdeithasol, medd Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Arfon.
Dywed Sian Gwenllian AC a Hywel Williams AS bod y diffyg hyfforddiant i feddygon yng Ngogledd Cymru yn cael effaith wirioneddol ar iechyd pobl trwy achosi problemau wrth recriwtio staff meddygol i weithio yn y rhanbarth.
Dengys ffigyrau a ryddhawyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd yr wythnos hon fod cynnydd o 16% wedi bod yn y nifer o feddygon ifanc sy'n dewis dod i Gymru neu aros yma i hyfforddi. Serch hynny, mae lefelau recriwtio meddygon teulu a staff meddygol eraill yn parhau i fod yn llawer is yng Ngogledd Cymru na rhannau eraill o'r wlad.
Y llynedd, lansiodd y GIG yng Nghymru ymgyrch recriwtio genedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys bonws o £20,000 gan Lywodraeth Cymru i feddygon ifanc sy'n aros am o leiaf blwyddyn wedi hyfforddi mewn ardaloedd lle mae'n anodd denu a recriwtio meddygon.
Tra'n croesawu ymdrechion i fynd i'r afael â gwella recriwtio, dywed AC ac AS Plaid Cymru mai dim ond ateb dros dro yw'r mesurau presennol.
Meddai Sian Gwenllian AC: "Mae'r prinder dybryd o feddygon teulu yn dal i fod yn broblem fawr sy'n cael effaith negyddol ar ansawdd y gofal iechyd i bobl yma yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn yr ardaloedd mwyaf gwledig a difreintiedig.
"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwario'n sylweddol fwy ar feddygon locum na byrddau iechyd eraill yng Nghymru, sy'n rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd yn y gogledd.
"Mae angen i ni ganfod ateb cynaliadwy i wella recriwtio yn yr hirdymor. Mae tystiolaeth yn dangos fod meddygon yn tueddu i aros i fyw a gweithio lle cânt eu hyfforddi. Mae'n amlwg felly ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn hyfforddi meddygon yma yng Ngogledd Cymru – dydi cynnig bonws iddyn nhw i aros am flwyddyn ddim yn ddigon."
Ychwanegodd Hywel Williams AS: "Rydyn ni wedi bod yn galw am ysgol feddygol ym Mangor ers amser maith. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru wireddu'r addewid a wnaed flynyddoedd yn ôl pan sefydlwyd Betsi Cadwaladr.
"Mae'r ffaith bod y ddwy ysgol feddygol sydd yng Nghymru yng Nghaerdydd ac Abertawe – a dim un yma yn y gogledd – yn enghraifft arall o'r anghydraddoldeb sy'n wynebu nifer fawr o'n cymunedau.
"Mae'r anghydraddoldeb hwn o ran gofal iechyd yn rhan o ddarlun mwy lle mae pentrefi gwledig a threfi bach yn gweld mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus yn diflannu a lefelau cynyddol o ddifreintedd a phroblemau economaidd.
"Mae diffyg ysgol feddygol yn y gogledd hefyd yn golygu nad oes gan ein pobl ifanc y gallu i ddewis hyfforddi fel meddygon yn eu cymunedau eu hunain.
"Unwaith eto, rydyn ni'n galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddechrau dad-wneud yr anghydraddoldeb sylfaenol hwn trwy fuddsoddi mewn ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter