Siân Gwenllian AS

Gweithio dros bobl Gwynedd Maldwyn

Hafan > Amdanaf

Amdanaf


Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Gwynedd Maldwyn yn Senedd Cymru, ar ôl cynrychioli Arfon rhwng 2016 a 2026. Cafodd ei hethol i'r Senedd gyntaf yn 2016 a'i hail-ethol yn 2021 gyda chanran uwch o'r bleidlais nag unrhyw ymgeisydd arall yng Nghymru, gan ddyblu ei mwyafrif gyda 63.3% o'r bleidlais. Yn etholiad Senedd 2026, dychwelodd fel un o chwe Aelod y Senedd ar gyfer etholaeth newydd Gwynedd Maldwyn o dan system etholiadol gyfrannol.
 
Mae hi'n falch o fod wedi ymgyrchu'n llwyddiannus dros ysgol feddygol newydd i ogledd Cymru, wedi'i lleoli ym Mangor o fewn ei hen etholaeth, Arfon.
 
Yn dilyn etholiad Senedd 2026, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru gyntaf dan arweiniad Plaid Cymru, a phenodwyd Siân yn Weinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Roedd hi wedi dal portffolio Tai a Chynllunio Plaid Cymru (2024–2026) yn flaenorol, yn dilyn ei rôl fel yr Aelod Dynodedig Arweiniol yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru (2021–2024).
 
Bu’n gweithio ar 46 o feysydd polisi gan sicrhau newidiadau mawr megis prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, ehangu gofal plant am ddim, mesurau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn ogystal â chyfrannu at greu Senedd fwy effeithiol a chynrychioliadol.
 
Yn ystod pumed a chweched tymor y Senedd mae hi wedi dal portffolios polisi amrywiol i Blaid Cymru gan gynnwys Addysg/Llywodraeth Leol/Cynllunio/Y Gymraeg/Diwylliant a bu’n Gomisiynydd Senedd y Blaid, Trefnydd, Prif Chwip a Dirprwy Arweinydd yn y Senedd. Hi yw Cyfarwyddwr Polisi Plaid Cymru ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid (2024-).
 
Fe’i magwyd ym mhentref Y Felinheli lle mae’n dal i fyw a derbyniodd ei haddysg uwchradd ym Mangor. Mynychodd y brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd, a bu’n gweithio fel newyddiadurwr gyda’r BBC, HTV, Golwg yn ogystal â chyflwyno a chynhyrchu rhaglenni dogfen ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd (1997-2004.)
 
Yn 2008 etholwyd Siân yn gynghorydd sir dros y Felinheli, gan wasanaethu am 8 mlynedd cyn cael ei hethol i’r Senedd. Bu’n dal y portffolio cyllid (2010-12) cyn dod yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac yn Aelod Cabinet dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc. Hi hefyd oedd Pencampwr Busnesau Bach y sir.
 
Mae diddordeb gwleidyddol Siân yn ymestyn dros sawl degawd. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth bu'n Ddirprwy Lywydd Urdd y Myfyrwyr. Mae hi hefyd wedi bod yn llywodraethwr ysgol gynradd ac uwchradd, yn gadeirydd ar ei chyngor cymuned lleol ac yn wirfoddolwr gyda llawer o fudiadau lleol. Mae hi wedi bod yn ymgyrchydd angerddol dros gydraddoldeb merched a’r Gymraeg ers dros 45 mlynedd.
 
Roedd gan Siân bedwar o blant gyda’i gŵr, Dafydd ond yn 1999, pan oedd eu mab ieuengaf ond yn dair oed, bu farw Dafydd o ganser. Magodd Siân y pedwar plentyn fel rhiant sengl.

Dilynwch Fi