Siân Gwenllian AS

Gweithio dros bobl Gwynedd Maldwyn

Hafan > Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau


Dyma gasgliad o rai o gyhoeddiadau gan Siân Gwenllian AS dros y blynyddoedd diwethaf. Yn eu plith mae:

  • Ymchwil mae Siân wedi’i gomisiynu i gefnogi ei gwaith yn Arfon
  • Papurau polisi cenedlaethol
  • Diweddariadau ar waith Siân yn Arfon
  • Cyrraedd y Miliwn

Gwynedd o'r gwaelod i fyny: adeiladu'r economi leol

07.04.2026

Dyma adroddiad gan Ymchwil Economi Sylfaenol (FERL) sy’n cynnig dadansoddiad treiddgar o natur a strwythur economi Gwynedd heddiw. Mae’r adroddiad yn amlygu canlyniadau ymarferol polisïau economaidd unffurf ac yn cynnig atebion am beth mwy sydd angen digwydd i wneud i’r economi weithio er lles pobl Arfon, ac er budd yr hyn sy’n bwysig i ni yma yn Arfon.

Gwynedd o'r gwaelod (PDF)

Cryfhau Seiliau Cyfreithiol y Gyfundrefn Dai a Chynllunio yng Nghymru

01.03.2026

Papur gan Gwion Lewis, Cwnsler y Brenin yn Siambrau Landmark, Llundain sy’n arbenigo yn y gyfraith gynllunio, y gyfraith amgylcheddol a’r gyfraith gyhoeddus. 
 
Comisiynwyd y gwaith hwn yn wreiddiol gan Mabon ap Gwynfor AS, yn rhinwedd ei waith fel Llefarydd Tai a Chynllunio Grŵp Senedd Plaid Cymru ar y pryd, er mwyn ceisio cyfrannu at y drafodaeth gyhoeddus am ffyrdd o sicrhau fod y farchnad dai yn adlewyrchu anghenion lleol yn well a bod y fframwaith cynllunio yng Nghymru yn addas i’w bwrpas. Cafodd y gwaith ei ddiweddaru ar ddechrau 2026 ar gais Sian Gwenllian AS, Llefarydd Tai a Chynllunio cyfredol Grŵp Senedd Plaid Cymru.

Cryfhau Seiliau Cyfreithiol (PDF)

Gwella Cartrefi Cymru: Gweithredu ymhellach ac ynghynt — Gorffennaf 2025

01.07.2025

Y papur hwn yw’r trydydd mewn cyfres sy’n dechrau nodi cynigion tai Plaid Cymru cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Gwella Cartrefi Cymru (PDF)

Gŵyl Tai Cymdeithasol Dulyn — Mehefin 2025

06.06.2025

Rhwng 4-6 Mehefin 2025, bu Siân Gwenllian mewn gŵyl tai cymdeithasol yn Nulyn. Yn yr adroddiad hwn mae’n crynhoi ei chanfyddiadau a’i myfyrdodau.

Gŵyl Tai Cymdeithasol Dulyn (pdf)

Adeiladu Dyfodol: Gweledigaeth Plaid Cymru am Drawsnewid Cyflwyno Tai Cymdeithasol yng Nghymru — Gwanwyn 2025

01.04.2025

Mae Cymru yn wynebu argyfwng tai ar raddfa ddigynsail, gyda thros 139,000 o bobl ar restrau aros am dai cymdeithasol, a digartrefedd wedi codi i’r entrychion. I fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, mae angen atebion beiddgar a blaengar, a chanolbwyntio o’r newydd ar gyflwyno tai cymdeithasol. Mae’r papur hwn yn gosod allan weledigaeth Plaid Cymru am drawsnewid y ddarpariaeth tai cymdeithasol yng Nghymru, gan bwysleisio’r angen am bolisïau cadarn, cynllunio strategol, a buddsoddi wedi ei dargedu. Yr hyn sy’n ganolog i’r weledigaeth hon yw’r egwyddor y dylai pawb yng Nghymru fod â’r hawl i gartref diogel, fforddiadwy a digonol.

Adeiladu Dyfodol: Gweledigaeth Plaid Cymru am Drawsnewid Cyflwyno Tai Cymdeithasol yng Nghymru (pdf)

Cartref i bawb: Yr Hawl i Dai Digonol, Rheoli Rhenti a Fforddiadwyedd — Rhagfyr 2024

29.12.2024

Y papur hwn yw’r cyntaf mewn cyfres sy’n dechrau nodi cynigion tai Plaid Cymru cyn etholiad y Senedd yn 2026. Papur 1 yw ein safbwynt polisi ar yr hawl i dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd. 

Cartref i bawb: Yr Hawl i Dai Digonol, Rheoli Rhenti a Fforddiadwyedd (pdf)

Llenwi'r Bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor — Hydref 2024

04.10.2024

Mae manteision lu i Gymru gyfan o sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd ym Mangor ac er mwyn tystiolaethu hyn, comisiynwyd yr adroddiad hwn gan gwmni ymchwil annibynnol Lafan, ac mae’r casgliadau trawiadol yn cael eu cyhoeddi yma.

Adroddiad Deintyddiaeth Medi 2024

Yr economi gydweithredol – goresgyn y rhwystrau?

01.03.2024

Mae'r adroddiad hwn yn dadlau y gallai ehangu'r economi gydweithredol helpu i fynd i'r afael â gwendidau strwythurol yn economi Cymru, megis perchnogaeth fusnes ansefydlog a diffyg cwmnïau canolig eu maint. Ar adeg cyhoeddi, dim ond cyfran fach o CMC Cymru a gyfrannodd cwmnïau cydweithredol (tua 0.6% yn swyddogol, o bosibl yn agosach at 1.6%), er gwaethaf eu potensial i gefnogi gwydnwch economaidd, perchnogaeth gymunedol, a chyfranogiad gweithwyr. Yn anffodus, dim ond yn Saesneg mae’r adroddiad hwn ar gael.

Yr economi gydweithredol – goresgyn y rhwystrau?

Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru — 2021

29.08.2021

Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru arwyddwyd yn 2021. Trefniant i weithio gyda’n gilydd ar feysydd polisi penodol, gan gynnwys Cinio Ysgol am Ddim a Gofal Plant am Ddim. Sian Gwenllian AS oedd y Prif Aelod Dynodedig yn y Cytundeb rhwng 2021 a 2024. 

Y Cytundeb Cydweithio

Tâl ac Amodau Athrawon

01.04.2020

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio heriau yn system addysg Cymru sy'n gysylltiedig â chyflog athrawon, amodau gwaith, recriwtio a llwyth gwaith, ac yn cynnig diwygiadau i wella'r proffesiwn a chodi safonau addysgol.

Tâl ac Amodau Athrawon

Y Gymraeg mewn addysg: cryfhau drwy ddeddfu? — Gwanwyn 2019

29.05.2019

Papur ynglŷn â deddfu ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg o fewn gofal plant, addysg a hyfforddiant. Ysgrifennwyd gan Gareth Pierce a chomisiynwyd gan Siân Gwenllïan AC.

Y gymraeg mewn addysg cryfhau drwy ddeddfu

Yr Angen Lleol am Dai a'r Gymraeg yn y System Gynllunio — Mawrth 2018

14.03.2018

Papur trafod ar yr angen lleol am dai a’r Gymraeg yn y system gynllunio.

Papur Trafod

Cyrraedd y Miliwn — Mawrth 2017

29.08.2017

Comisiynwyd Iaith: Y Ganolfan Cynllunio Iaith i lunio’r ddogfen hon gan Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad ac Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros yr iaith Gymraeg, Cynllunio, Llywodraeth Leol a Chydraddoldeb ar y pryd.

Bwriad y ddogfen yw amlinellu rhai o’r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050. 

Darllen Cyrraedd y Miliwn (pdf)

Dyfodol y Gorllewin — 2017

29.08.2017

Papur trafod ynglŷn â chydweithio er lles yr economi a’r Gymraeg, wedi gomisiynu gan Adam Price AC a Siân Gwenllian AC. 

Dyfodol y Gorllewin (pdf)

Delio â’r Argyfwng: ysgol feddygol newydd i Gymru — 2016

17.07.2016

Comisiynwyd yr adroddiad hwn er mwyn gwneud yr achos dros sefydlu ysgol feddygol newydd yng Nghymru i fynd i’r afael â phrinder meddygon a gwella hyfforddiant meddygol yn y wlad. 

Adroddiad Ysgol Feddygol - Delio a'r Argyfwng

Dilynwch Fi