Cartref > Newyddion > 60 mlynedd ers Aberfan
60 mlynedd ers Aberfan
Mae heddiw yn nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan, pan laddwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant mewn tirlithriad. Ar ddydd Gwener 21 Hydref 1966, am 9.15 y bore, llithrodd tomen lo i lawr llethrau'r bryniau uwchlaw'r pentref yng Nghwm Taf, gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas ac ugain o dai a ffermdy.
Wrth nodi’r achlysur, dywedodd Siân Gwenllian AS:
“Mae’n anodd credu fod heddiw yn nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan.
“Roeddwn i’n 10 oed ar y pryd, a dwi’n cofio gweld y lluniau du a gwyn erchyll o’r pentref ar y teledu yn ein cartref yn Y Felinheli. Dwi’n cofio gweld y dagrau yn llifo ar wyneb Mam a oedd, yn ogystal â bod yn fam, yn athrawes ei hun ar y pryd. Dwi hefyd yn cofio fy rhieni yn mynd â ni i weld y fynwent goffa pan gafodd ei hagor.
“Dros y blynyddoedd, tyfodd ein hymwybyddiaeth fel cenedl o arwyddocâd gwleidyddol y ddinistr, yn ogystal â'r cydymdeimlad dwys at gymuned a effeithiwyd arni mor ddyfn gan y drasiedi.”
Dilynwch Fi