Cartref > Newyddion > Adran Achosion Brys
Adran Achosion Brys
Siân Gwenllian AS yn ymweld ag Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd
Mae Aelod o'r Senedd dros Wynedd Maldwyn, Siân Gwenllian, wedi ymweld ag Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd i ddysgu mwy am y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud yno ac i glywed yn uniongyrchol am rai o'r heriau sy'n wynebu'r adran.
Dr Rob Perry, Is-lywydd RCEM Cymru, Sian Gruffydd, Rheolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Gofal Brys, BCUHB, a Dr Pete Williams, Arweinydd Clinigol yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd
Mae Ysbyty Gwynedd yn gyfleuster iechyd hanfodol yng ngogledd-orllewin Cymru, a hon yw’r ysbyty agosaf i ddegau o filoedd o etholwyr Siân Gwenllian ar draws Gwynedd Maldwyn.
Mynychodd Siân agoriad y gwaith ailddatblygu gwerth miliynau o bunnoedd yn yr Adran Achosion Brys yn 2019, a bryd hynny fe ddisgrifiodd y prosiect fel un “trawsnewidiol”. Dychwelodd i’r adran yr wythnos hon i weld y cyfleusterau a chwrdd â’r staff unwaith yn rhagor.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Siân â Dr Rob Perry, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Frys ac Is-lywydd presennol Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM) Cymru, a chlywodd am y pwysau sy'n wynebu Adrannau Achosion Brys ledled Cymru.
Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i longyfarch yr adran ar dderbyn achrediad Efydd trwy raglen GreenED y Royal College of Emergency Medicine. Mae'r achrediad yn cydnabod gwaith yr adran i leihau ei heffaith amgylcheddol tra’n cynnal safonau uchel o ofal cleifion.
Cafodd Siân gyfle hefyd i weld y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud ar bad hofrennydd presennol yr ysbyty, prosiect a fydd yn golygu bod yr ysbyty'n cael ‘pad hofrennydd deuol’ – y cyntaf o'i fath yn y wlad. Mae'r cyfleusterau'n rhan bwysig o seilwaith argyfwng yr ysbyty, a bydd yn galluogi hofrenyddion meddygol i gludo cleifion sy'n ddifrifol wael yn gyflym er mwyn derbyn gofal brys arbenigol.
Yn ôl Siân Gwenllian AS:
“Roedd yn bleser ymweld ag Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd a chwrdd â’r staff sy’n gweithio’n hynod galed i ddarparu gofal i gleifion.
“Dwi’n ymwybodol iawn o rai o’r heriau sylweddol sy’n wynebu’r adran, gan gynnwys pryderon ynghylch y diffyg ‘llif parhaus’ sy’n arwain at orfod trin cleifion mewn lleoliadau anghlinigol, anaddas – arfer sy’n cael ei adnabod yn Saesneg fel ‘coridor care’. Mae’r rhain yn bryderon difrifol, a dwi wedi cael profiad personol ohonyn nhw’n ddiweddar. Dwi’n edrych ymlaen at godi’r materion hyn yn uniongyrchol efo’r Bwrdd Iechyd.
“Ond dwi hefyd am fanteisio ar y cyfle yma i gydnabod y gwaith gwych y mae’r staff yn ei wneud mewn amgylchiadau anodd iawn. Mae’n amlwg fod gofal wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud, ac roedd yn amlwg bod ’na ymdeimlad go iawn o gydweithio ar draws yr adran.”
“O'r staff glanhau a'r porthorion i'r timau clinigol, roedd pawb yn ymfalchïo'n fawr yn eu gwaith ac yn darparu'r gofal gorau posibl i gleifion.
“Roedd hi hefyd yn dda gweld y gwelliannau sylweddol i'r pad hofrennydd presennol yn ogystal â chael cip ar y pad ychwanegol newydd, a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod cleifion sy'n ddifrifol wael yn gallu cyrraedd gofal brys cyn gynted â phosibl.
“Hoffwn ddiolch i’r adran gyfan unwaith eto am y croeso ac, yn bwysicaf oll, am y gwaith arwrol y maen nhw’n parhau i’w wneud bob dydd.”
Dilynwch Fi