Cartref > Newyddion > Gareth o’r Felinheli yn chwarae i dîm Pêl-droed Trawsblaniad Cymru
Gareth o’r Felinheli yn chwarae i dîm Pêl-droed Trawsblaniad Cymru
Mae’r plymar a’r tad i bump o’r Felinheli yn chwarae yn nhîm Pêl-droed Trawsblaniad Cymru a ddaeth yn bedwerydd drwy’r byd eleni
Mae Siân Gwenllian AS wedi bwrw goleuni ar ei hetholwr, Gareth Jones o’r Felinheli, ar ôl iddo helpu Tîm Pêl-droed Trawsblaniad Cymru i gyrraedd y pedwerydd safle yng Nghwpan y Byd yn yr Almaen eleni.
Ym mis Mehefin 2022, cafodd bywyd Gareth, plymar a thad i bump, ei droi ben i waered dros nos. Ar ôl dioddef ers wythnosau o ddiffyg anadl, cafodd Gareth ei daro’n ddifrifol wael. Roedd ei galon yn gweithio ar gapasiti o 10%, ac roedd angen trawsblaniad arno ar frys. Yn ffodus, daeth calon gan roddwr ar gael y diwrnod ar ôl iddo gael ei roi ar y rhestr aros.
Ar ôl gwella, gweithiodd Gareth yn galed i adennill ei ffitrwydd ac ymunodd â Thîm Pêl-droed Trawsblaniad Cymru, gan deithio’n rheolaidd i dde Cymru i hyfforddi. Ar ôl cystadlu yng Nghwpan y Byd yn yr Eidal yn 2024, llwyddodd Gareth a’i gyd-chwaraewyr i ddod yn bedwerydd drwy’r byd yn yr Almaen eleni.
Yn ôl Siân Gwenllian AS:
“Mae stori Gareth yn ysbrydoliaeth. Mae mynd trwy brofiad mor heriol, fel wnaeth Gareth, ac yna gweithio mor galed i adennill ei ffitrwydd a chystadlu ar lwyfan rhyngwladol yn rhywbeth i’w edmygu’n fawr.
“Mae ei natur benderfynol yn arwydd o gryfder ei gymeriad, ac mae ei lwyddiant gyda Thîm Pêl-droed Trawsblaniadau Cymru yn rhywbeth y mae’r gymuned gyfan yn hynod falch ohono fo.
“Dwi’n ddiolchgar iawn i deulu Gareth am dynnu fy sylw at ei stori, ac mi hoffwn fanteisio ar y cyfle unwaith yn rhagor i longyfarch Gareth a’i holl gyd-chwaraewyr ar y canlyniad.”
Dilynwch Fi