Cartref > Newyddion > Rhaglen Nofio Ysgol Newydd
Rhaglen Nofio Ysgol Newydd
“Mae stori Ela yn dangos pam fod y cyfleoedd hyn mor bwysig”: Plant Gwynedd i elwa ar raglen newydd nofio a diogelwch dŵr
Mae plant yng Ngwynedd ymhlith y rhai a fydd yn elwa ar raglen newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu o leiaf 20 awr o wersi nofio a diogelwch dŵr i ddisgyblion ysgolion cynradd.
Bydd disgyblion ym Mlynyddoedd 4 a 5 yng Ngwynedd ymhlith y rhai a fydd yn cymryd rhan yng ngham cyntaf y rhaglen Nofio Ysgol, ochr yn ochr â phlant yn Ynys Môn, Wrecsam, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.
Bydd y rhaglen yn dysgu sgiliau hanfodol i blant, gan gynnwys hyder yn y dŵr, nofio sylfaenol a hunan-achub, cyn i’r rhaglen gael ei chyflwyno ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Siân Gwenllian AS y byddai'r rhaglen yn arbennig o bwysig mewn sir fel Gwynedd, lle mae cymunedau wedi'u hamgylchynu gan afonydd, llynnoedd ac arfordir.
"Yma yng Ngwynedd, lle mae cymaint o'n cymunedau yn byw yn agos at y môr, afonydd, neu lynnoedd, mae'n hanfodol bod gan blant y sgiliau a'r hyder i aros yn ddiogel yn y dŵr. Nid gweithgaredd hamdden yn unig ydi nofio – mae'n sgil bywyd hollbwysig."
Cafodd y rhaglen ei lansio'n swyddogol ddydd Mercher, 23 Medi, yn ystod ymweliad gan y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth a'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Heledd Fychan â Chanolfan Hamdden Penlan yn Abertawe, lle roedd disgyblion ysgol leol yn cael gwersi nofio.
Yn ôl Siân Gwenllian, mae’r cyhoeddiad gan y Llywodraeth yr wythnos hon yn amserol iawn. Cynhaliwyd dathliad ‘croeso adref’ ym mhentre’r Felinheli ar gyfer Ela Letton-Jones, para-nofiwr 19 oed o Gymru sy'n cystadlu'n rhyngwladol ac a enillodd fedal arian i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2026.
"Mae stori Ela yn dangos pam fod y cyfleoedd hyn mor bwysig – rhoi cyfle i blant ddatblygu cariad at nofio, yn ogystal â'r sgiliau a'r hyder a fydd yn aros efo nhw gydol eu bywydau." Bydd y rhaglen nofio ysgolion yn darparu o leiaf 20 awr o hyfforddiant nofio a diogelwch dŵr i ddisgyblion Blynyddoedd 4 a 5 yn y naw ardal sy'n cymryd rhan i ddechrau, cyn cael ei hymestyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2028.
Dilynwch Fi