Siân Gwenllian AS

Gweithio dros bobl Gwynedd Maldwyn

Cartref > Newyddion > Swyddi yn y GIG i raddedigion

Swyddi yn y GIG i raddedigion


Mae Siân Gwenllian yn croesawu swyddi yn y GIG i raddedigion nyrsio o Brifysgol Bangor

Mae Siân Gwenllian AS wedi croesawu'r newyddion bod pob nyrs raddedig o Brifysgol Bangor bellach wedi sicrhau swydd yn GIG Cymru. Mae’r AS wedi ei ddisgrifio fel cam pwysig ymlaen ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth ym maes gofal iechyd yng Ngwynedd a gogledd Cymru.

Daw'r cyhoeddiad yn sgil pryderon cyn etholiad mis Mai bod nifer o raddedigion gofal iechyd ledled Cymru wedi methu â sicrhau swyddi yn y GIG ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Fel ymateb, cynhaliodd Gweinidog Iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, uwchgynhadledd ym mis Mehefin, gan ddod â byrddau iechyd, prifysgolion, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) a Llywodraeth Cymru ynghyd i nodi cyfleoedd a helpu graddedigion i symud i gyflogaeth.

Mae'r camau a gymerwyd wedi arwain at 253 o nyrsys sydd newydd gymhwyso yn sicrhau swyddi ledled GIG Cymru. Ddydd Llun (19 Hydref), ymwelodd y Gweinidog Iechyd â Phrifysgol Aberystwyth i gwrdd â myfyrwyr nyrsio ac i ddathlu’r llwyddiant bod pob nyrs raddedig yn ystod yr haf o Brifysgolion Aberystwyth a Bangor bellach wedi sicrhau gwaith yn y GIG.

Yn ôl Siân Gwenllian AS, Aelod o’r Senedd dros Wynedd Maldwyn:

“Mae hyn yn newyddion gwych i Wynedd a gogledd Cymru. Mae pob nyrs raddedig o Brifysgol Bangor bellach wedi sicrhau gwaith yn GIG Cymru, a rŵan mae gan y graddedigion talentog hyn gyfle i ddatblygu eu gyrfaoedd yma, tra’n helpu i gryfhau’r gwasanaeth iechyd rydan ni i gyd yn dibynnu arno.

“O dan y Llywodraeth Lafur flaenorol, gorffennodd llawer o fyfyrwyr gofal iechyd eu hastudiaethau heb swydd wedi’i sicrhau yn y GIG. Roedd hynny’n fethiant difrifol o ran cynllunio’r gweithlu, ac roedd yn annheg ar raddedigion a oedd wedi buddsoddi cymaint yn eu haddysg a’u hyfforddiant.

“Gwnaeth Plaid Cymru addewid i gymryd camau i helpu graddedigion nyrsio i ddod o hyd i swyddi yng Nghymru, ac rydym yn cyflawni ar yr ymrwymiad hwnnw. Drwy ddod â'r partneriaid cywir ynghyd ac adnabod swyddi sydd ar gael, mae'r Gweinidog Iechyd wedi helpu i droi'r addewid hwnnw'n weithredu ymarferol.”

Dywedodd Siân fod y cyhoeddiad yn arbennig o galonogol i Wynedd, gan y gallai buddsoddiad pellach mewn addysg feddygol a gofal iechyd helpu i adeiladu gweithlu cryfach ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd:

Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan hanfodol wrth addysgu a hyfforddi’r gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sydd eu hangen arnom yn Gwynedd ac ar draws gogledd Cymru. Mae sicrhau bod graddedigion nyrsio yn gallu symud yn syth i waith yn newyddion da iddyn nhw, i’r GIG ac i gleifion sydd angen gofal o ansawdd uchel ac mewn modd amserol. 

“Ynghyd ag agoriad swyddogol Ysgol Feddygol Prifysgol Bangor ddwy flynedd yn ôl, ac ymrwymiad Plaid Cymru i sefydlu ysgol ddintyddiaeth yng Nghymru, rydan ni ar y trywydd cywir o ran addysg a hyfforddiant gofal iechyd yn ein hardal.

“Mae angen i ni roi cyfle i bobl hyfforddi, cymhwyso a datblygu gyrfaoedd da yn agos at adref. Bydd hynny’n ein helpu i ddatblygu’r gweithlu â sgiliau sydd ei angen ar ein gwasanaeth iechyd, cryfhau ein cymunedau lleol a gwella mynediad at ofal i bobl ledled Gwynedd a gogledd Cymru.”

Sian Gwenllian yn sefyll o flaen arwydd Ysbyty Gwynedd

Mwy o Newyddion

Dilynwch Fi