Siân Gwenllian AS

Gweithio dros bobl Gwynedd Maldwyn

Cartref > Newyddion > Ymweld Cartref Gofal Dementia

Ymweld Cartref Gofal Dementia


"Profiad emosiynol": Aelod o’r Senedd yn ymuno yn y gân mewn cartref gofal dementia

Cafodd Aelod o'r Senedd ei chyffroi hyd at ddagrau ar ôl ymuno â phreswylwyr mewn cartref gofal dementia ar gyfer cân deimladwy.

Roedd AS Gwynedd Maldwyn Siân Gwenllian yn emosiynol yn ystod ymweliad â Bryn Seiont Newydd cartref arobryn Parc Pendine ar gyrion Caernarfon.

Eisteddodd y gwleidydd Plaid Cymru gyda phreswylwyr yn ystafell gerddoriaeth y cartref gofal ac ymuno i ganu gyda nhw mewn sesiwn dan arweiniad y cerddor preswyl Nia Davies Williams.

Sychodd ddeigryn wrth i David Edwards, cyn-heddwas ac aelod o Gôr Meibion y Brythoniaid, ganu'r gân werin draddodiadol, Ar Lan y Môr.

Dywedodd Ms Gwenllian: "Roedd yn brofiad emosiynol cael bod yn rhan o'r sesiwn ganu. Roedd David mor deimladwy ag erioed yn canu yn ei lais tenor gwych ac roedd yn amlwg ei fod yn mwynhau cymryd rhan, gyda'r bobl o'i gwmpas yn ymuno yn y gân hefyd. 

"Mae'n glir bod canu a cherddoriaeth yn cysylltu pobl, ac mae hynny'n hanfodol bwysig. Rwy'n gwybod bod celf yn gallu cyflawni'r un peth ac mae Bryn Seiont Newydd wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd ac roeddwn i'n falch iawn o gael y profiad hwnnw eto."

Croesawyd Siân Gwenllian i Bryn Seiont Newydd gan sylfaenydd Parc Pendine, Mario Kreft MBE, a aeth gyda hi i'r ystafell gerddoriaeth. 

Dywedodd: "Roeddem wrth ein bodd ei bod wedi cymryd yr amser i ddod i gyfarfod â'r preswylwyr a chanu gyda nhw. Mae hyn i gyd yn ymwneud â sut y gall y celfyddydau chwarae rhan yng ngofal pobl â dementia, mae hynny mor bwysig."

Amlinellodd Mr Kreft y gwaith a wnaed gan staff Bryn Seiont Newydd ar gyfer y preswylwyr.

"Mae hi'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd cefnogaeth gymunedol. Mae cartref Bryn Seiont Newydd wedi'i wreiddio yn ei gymuned. Mae'n gartref i 107 o breswylwyr, 34 ohonyn nhw mewn fflatiau, mae yno 254 o staff ac rydym yn credu ein bod yn darparu gwasanaeth da iawn i'n cymuned. 

"Rydyn ni'n ategu'r GIG oherwydd byddai llawer o'r bobl hyn fel arall yn system y Gwasanaeth Iechyd. Heb os, rydym yn un o'r arweinwyr yn y sector gofal yn yr ardal hon ond mae yna rai eraill hefyd ac mae pwysigrwydd y sector gofal annibynnol yng ngogledd Cymru yn hollol hanfodol.

"Mae llefydd fel Bryn Seiont Newydd a lleoliadau llai yn drysorau cenedlaethol a dylid eu gwerthfawrogi oherwydd maen nhw’n galluogi pobl i aros yn eu cymunedau ac i gael gofal gan alluogi eu teuluoedd i ymweld â nhw, ac i dderbyn gwasanaethau eraill os oes angen, ac roeddwn i mor falch o gael y cyfle i esbonio beth rydym yn ei wneud wrth Siân Gwenllian."

Ychwanegodd Siân Gwenllian, sydd wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers 2016, gan gynrychioli hen Etholaeth Arfon cyn y newid yn ffiniau’r etholaeth: "Mae'r sector gofal yn hollbwysig, ac mae angen i ni ei dyfu drwy ddarparu gofal - boed hynny i bobl yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cyfleusterau arbenigol fel Bryn Seiont Newydd. 

"Mae'r ddau ddull yn mynd law yn llaw pan ddaw hi’n fater o gynnal annibyniaeth ac atal problemau rhag gwaethygu i'r pwynt lle mae angen triniaeth ysbyty.

"Mae cael cyfleuster gofal dementia arbenigol fel Bryn Seiont Newydd yn hynod bwysig i'n cymunedau yn y rhan hon o ogledd Cymru."

Yn ystod yr ymweliad cafodd yr AS ei chyflwyno i Amy Rowlands, Andrew Roberts a Chris Jones, tri aelod o staff a oedd wedi dechrau eu gyrfaoedd yn Bryn Seiont Newydd ac a gafodd gyfle i astudio ar gyfer cymwysterau ychwanegol. 

Roedden nhw ymhlith wyth o weithwyr gofal Parc Pendine sydd newydd gymhwyso fel nyrsys trwy gynllun arloesol y sefydliad "tyfu eich hun", y nifer fwyaf i wneud hynny ers dechrau'r rhaglen.

Cwblhaodd pob un o'r wyth gwrs gradd nyrsio Baglor yn y Gwyddorau dros bedair blynedd trwy'r Brifysgol Agored wrth barhau i weithio yng nghartrefi gofal Pendine.

"Mae Bryn Seiont Newydd yn gyflogwr arwyddocaol sy'n agor drysau i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd. Clywais am unigolion a ddechreuodd yma fel cynorthwywyr gofal, ymgymryd â hyfforddiant pellach, a mynd ymlaen i fod yn arweinwyr clinigol; mae'r ffordd y mae’r math hwn o ddilyniant yn cael ei annog yma yn rhywbeth ardderchog," meddai Ms Gwenllian.

"Rwy'n gwybod o’m gwaith achos fy hun bod galw mawr am gyfleusterau fel Bryn Seiont Newydd. Mae dementia yn cyffwrdd â phob teulu ar ryw adeg; mae wedi cyffwrdd â’m teulu fy hun, ac rydym wedi bod mor ddiolchgar i dderbyn gofal arbenigol y tu allan i leoliad ysbyty. 

"Roedd derbyn y gofal hwnnw yn y Gymraeg hefyd yn bwysig iawn. Fel cymdeithas, mae'n rhaid i ni fod yn barod; wrth i'r boblogaeth heneiddio, bydd angen gofal ar gyfer cyflyrau amrywiol ar fwy o bobl, ond mae angen gofal arbenigol iawn ar bobl sy'n byw gyda dementia - ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yma yn Bryn Seiont Newydd yn anhygoel."

Ers i Blaid Cymru gymryd yr awenau fel llywodraeth ym Mae Caerdydd, mae Siân Gwenllian wedi gwasanaethu fel Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. 

Ychwanegodd dirprwy reolwr Bryn Seiont Newydd, Amy Rowlands: "Roeddem yn falch iawn o groesawu Siân Gwenllian yma ac rydym yn ddiolchgar iawn ei bod wedi neilltuo amser i fod efo’n preswylwyr a phrofi un o'n sesiynau canu.

"Mae'r celfyddydau yn rhan mor bwysig o fywyd yma. Mae cerddoriaeth yn arbennig yn llinyn arian sy'n rhedeg trwy fywyd bob dydd yn Bryn Seiont Newydd, gan ddod â phobl at ei gilydd, creu atgofion a rhoi cyfle i bawb gymryd rhan.

"Rydym yn gweld bob dydd sut y gall canu godi ysbryd rhywun, sbarduno atgofion neu greu eiliad o lawenydd a chyswllt syml. Dyna pam nad yw'r celfyddydau yn rhywbeth dewisol mewn gofal dementia – mae'n rhan canolog o'r hyn rydym yn ei wneud."

  • Sian Gwenllian tu allan i'r adeilad gyda staff y cartref gofal
  • Sian Gwenllian gwrando ar pawb yn canu
  • cerddor preswyl Bryn Seiont Newydd yn chwara y piano
  • preswyliwr y cartref gofal yn canu

Mwy o Newyddion

Dilynwch Fi