Cartref > Newyddion > Angen i fod yn ofalus wrth i Storm Boelo ddod â pherygl llifogydd i Wynedd Maldwyn
Angen i fod yn ofalus wrth i Storm Boelo ddod â pherygl llifogydd i Wynedd Maldwyn
Siân Gwenllian AS yn pwysleisio’r angen i fod yn ofalus wrth i Storm Boelo ddod â pherygl llifogydd i Wynedd Maldwyn
Mae Siân Gwenllian AS wedi annog trigolion ar draws Gwynedd Maldwyn i fod yn ofalus wrth i Storm Boelo ddod â glaw trwm a pherygl o lifogydd, yn enwedig mewn ardaloedd o lanw uchel a thywydd garw.
Mae disgwyl llifogydd ar dir isel a ffyrdd, ac mae rhybuddion llifogydd mewn grym ar gyfer dalgylch Gogledd Gwynedd, o Abergwyngregyn i Aberdaron, dalgylch Glaslyn a Dwyryd, o Ddyffryn Ardudwy i Nant Gwynant, ac arfordir Pen Llŷn a Bae Ceredigion.
Yn ôl Siân:
“Byddwch yn ofalus, yn enwedig ar draethau, llwybrau arfordirol, ffyrdd, a thir isel ger afonydd ac aberoedd. Mae amodau’n newid yn gyflym, felly dilynwch gyngor swyddogol a chofiwch osgoi cymryd risg heb fod angen.
“Dwi’n annog pawb i wirio eu risg llifogydd a chofrestru ar gyfer gwasanaeth rhybudd llifogydd am ddim Cyfoeth Naturiol Cymru – mae’n bwysig paratoi.
“Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd ac yn gwella parodrwydd. Ond mae’r argyfwng hinsawdd yn cynyddu’r perygl rydan ni yn ei wynebu, sy’n ei gwneud hi’n hanfodol ein bod yn parhau i gryfhau ein hamddiffynfeydd a helpu cymunedau i baratoi.”
Gwybodaeth ddefnyddiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru:
- Gweld eich risg llifogydd yn ôl côd post
- Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd
- Lefelau afonydd, glawiad a data môr
- Paratoi ar gyfer llifogydd
- Beth i'w wneud mewn llifogydd
- Beth i’w wneud ar ôl llifogydd
- Rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod
Am wybodaeth a chyngor ynglŷn â llifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188; mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd.
Dylai etholwyr ddilyn y cyngor a'r rhybuddion diweddaraf gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r gwasanaethau brys.
Dilynwch Fi