Siân Gwenllian AS

Gweithio dros bobl Arfon

Cartref > O'r Wasg > Cefnogi Busnesau Lleol

Cefnogi Busnesau Lleol


Siân Gwenllian AS yn annog pobl i gefnogi busnesau lleol wrth iddi lansio gwefan newydd

Mae AS Arfon, Siân Gwenllian, wedi annog pobl i gefnogi busnesau lleol, gan dynnu sylw at gwmni Delwedd yng Nghaernarfon fel enghraifft o fusnes sydd wedi'i wreiddio yn y gymuned.

Yn ddiweddar, mae Delwedd wedi bod yn datblygu gwefan newydd ar gyfer yr Aelod o’r Senedd dros Arfon. Sefydlwyd y cwmni ym 1998 gan Mike Roberts o Fethel, dyn sy'n cael ei gofio am ei ymrwymiad i'r gymuned. Dros y blynyddoedd mae Delwedd wedi cefnogi nifer o sefydliadau a grwpiau gwirfoddol ar draws yr ardal, yn cynnwys Gafael Llaw, Menter Cymunedol Bethel, Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, ac MNDA: Grŵp Cymorth Gogledd Orllewin Cymru. Yn dilyn marwolaeth Mike yn 2017, mae'r busnes wedi parhau i ffynnu dan arweiniad ei blant, Aled a Ceri.

Wrth siarad am ei phrofiad o weithio gyda'r cwmni, dywedodd Siân Gwenllian AS:

“Mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda Delwedd ar fy ngwefan newydd. Maen nhw’n enghraifft wych o sut y gall busnesau lleol gynnig gwasanaeth cyflym a phersonol gydag ymwybyddiaeth leol bwysig.

“Mae Arfon yn llawn talent creadigol – o artistiaid a pherfformwyr i ddylunwyr a gwneuthurwyr annibynnol. Mae cefnogi busnesau lleol yn cylchredeg arian yn ein cymunedau – gan greu swyddi, cyfleoedd ac economi leol gryfach.”

Mae Delwedd wedi'i leoli yn Galeri Caernarfon, yng nghanol bwrlwm creadigol y dref. Aeth Siân yn ei blaen:

“Byddwn yn annog pawb i gefnogi ein busnesau lleol. Drwy wneud hynny, rydan ni’n buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau yma yn Arfon.”

Mae’r Aelod o’r Senedd yn gobeithio y bydd ei gwefan newydd yn diweddaru ei hetholwyr am ei gwaith, ac yn sicrhau ei bod yn AS hygyrch. Mae’n bellach yn fyw drwy’r ddolen hon: www.siangwenllian.cymru

Sioned Williams gydag Aled Roberts gyda chychod y tu ôl iddyn nhw

Siân Gwenllian AS ac Aled Roberts, Delwedd.

O'r Wasg

Dilynwch Fi