Siân Gwenllian AS

Gweithio dros bobl Arfon

Cartref > Ymgyrchoedd > Ysgol Ddeintyddol i Fangor

Ysgol Ddeintyddol i Fangor


Mae cael mynediad at ofal deintyddol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dasg bron yn amhosib ar gyfer plant ac unigolion yn etholaeth Arfon. Mae’r adroddiad ‘Llenwi’r Bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor’ sydd wedi’i gomisiynu gan Siân Gwenllian AS yn cynnwys tystiolaeth ystadegol, anedoctaidd ac arbenigol sy’n rhoi darlun o ddifrifoldeb y sefyllfa yn Arfon a Chymru.

Mae’r sawl sydd wedi arwyddo’r ddeiseb hon yn cytuno y dylid sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor er mwyn:
 

  • Gwella gwasanaethau  lleol a mynd i’r afael â’r argyfwng deintyddol yn Arfon ac ar draws Cymru.
  • Atgyfnerthu statws Bangor fel canolfan o ragoriaeth mewn hyfforddi iechyd.
  • Cryfhau economi Bangor drwy greu mwy o swyddi newydd o ansawdd.


Ymhellach, maent yn cytuno gyda chanfyddiadau’r adroddiad a enwir uchod ac yn credu bod yr adroddiad yn cyflwyno dadl gynhwysfawr a manwl dros sefydlu’r ysgol.

Ymgyrchoedd

Dilynwch Fi